Gan Morgan Morgans of Porth House Pontypridd.
Hunodd yn yr angau, Rhagfyr 31, 1898,
Ac a gladdwyd Ionawr 4, 1899 ym Mynachlog Ystrad Flur.
Croeso dagrau, frydiwch allan
Ysgafnhewch fy mynwes brudd;
‘R wy’n galaru ac yn wylo
Am fy Liza nos a dydd;
Er y gwn na wna ddychwelyd
O’i hoer wely priddlyd llaith,
Eto atal tywallt dagrau
Sydd im heddiw’n ormod gwaith.
Ond ‘r wy’n gofyn fydd I gredu
Mai nid priddlyyd wely llaith
Yw lle Liza annwyl heddiw,
Ond y Nefoedd eang faith:
Yno’n canu ‘mhlith y cwmni,
Am y prunu gynt a fu
Ar hen deulu codwm Eden,
Ar fryn enwog Calfari.
Pan gyhoeddwyd trwy’r byd cyfan
Gan wr cyfiawn oddi ar bren
“Mi orffennais ac a brynais
I ddyn truan deyrnas wen;”
Pan ‘roedd haul yn cuddio’i wyneb,
Pan oedd creigiau cread crwn
Yno’n rhwygo ac yn hollti
Dan fawr bwys y prynu hwn.
Diolch am Datguddiad Dwyfol
Diolch am dysgeidiaeth fyw
Diolch byth am le I gredu
Fod f’annwylyd gydai Duw;
Gwag yw’r tŷ a’I gylchoedd heddiw,
Gwag yw pobman – ond y bedd,
Ac nid oes ond gwagter yno –
Fry my Liza fach mewn hedd.
O! Fy Nuw, rho ras I dewi,
A thawelu y waith hon,
Er bod archoll ddofn yn aros
Am fy Liza dan fy mron;
Mae’r un annwyl ymhlith engyl
Gyda’s saint yn canu’n iach,
Eto mae fy nagrau treiglo
Pan yn cofio Liza fach.
Cofio am ei gieriau difyr,
Cofio’i llygaid siriol, llon,
Cofio am ei golwg ysgafn,
Sy’n creu hiraeth dan fy mron;
Atgof am ei holl arabedd,
A’i hatebion cyflym, iach,
Sydd yn peri I’m alaru
Yn ddidaw am Liza fach.
Q! mor galed ydyw cofio
Pan yn gorfod troi fy nghefn
Ar ystafell wely ‘ngeneth
Ac ymostwng dan y drefn;
Pan ‘roedd angau yn ysgaru
Ei chorff hardd a’i henaid drud,
‘R oedd ei mam a minnau llethu
Wrth ei gwled yn gado’r byd.
Wylo ‘r oedd ei mam a minnau,
Gyda’n llygaid megys llyn,
Ac yn gofio mawr mewn syndod:
“Angau hynod, beth yw hyn?”
“Beth wy’n hidio,” medd yr Angau,
“Am eich dagrau chwerw chwi,
Cyrchu Liza yw fy ngorchwyl
At ei hannwyl Brynwr cu.”
Gwywai’r gwelltyn, syrthiai’r blodyn
Ger ein bron newidiau’i gwedd,
A dywedai gyda bloesngi
Wrth ei mam, “Rwy’n mynd i’r bedd;
R’wy’n dymuno cael fy ngladdu,
Fel y dwedais pan yn iach,
Ym Mynachlog ‘Rhydfendigaid
Gydag Ellen a Tom bach.”
Beth wyf well o dywallt dagrau?
Beth wyf well o wylo’n brudd?
Beth wyf well o ddigio f’Arglwydd
Am fanwyled nos a dydd?
Buan daw fy amser innau
I fynd adref ar ei hôl
Trwy gul dyffryn cysgod angau,
Na ddychwelyd byth yn ol.
‘N awr ‘rwy’n tewi, rhag im flino
Rhai a’m clywo gyda’m cŵyn;
Ong ynghofio byth nis gallaf
Fy annwylaf blentyn mwyn.;
‘R wyn gobeithio cael cyfarfod
A’r un hynod ar ol hyn,
Pan yn gwledda ar y manna
Gwerthfawr ddrud ar Seion fryn.