Nico annwyl ei di drostai
Ar neges bach i Gymru lân ?
Ei o wlad y clwy' a'r clefyd
I ardaloedd hedd a chân ?
Ydi mae'r hen Strwma'n odaeth
Dan y lleuad ganol nos,
Ond anghofiat tithau'r cwbwl
'Daet ti'n gweld y Fenai dlos.
Sut yr wt-ti'n yn mynd i 'nabod
Cymru, pan gyrhaeddi 'ngwlad ?
Hed nes doi i wlad o frynia
Sydd ar môr yn cuddio'u trad ;
Lle mae'r haf yn aros hira,
Lle mae'r awal iach mor ffri,
Lle mae'r môr ar nefoedd lasa,
Gwlad y galon – dyna hi.
Chwilia Gymru am yr ardal
Lle mae'r gog gynhara'i thôn
Os cei di yno groeso calon,
Paid ag ofni - dyna Fôn:
Hêd i'r gogladd dros Frynsiencyn,
Paid ag oedi wrth y Tŵr
A phan weli di Lyn Traffwll,
Gna dy nyth yng ngardd Glan Dŵr.
Gardd o floda ydi honno,
Gardd o floda teca'r byd,
Ond mi weli yno rywun
Sy'n glysach na'r rhosynna i gyd.
Cân fy ngofid, cân i Megan,
Cân dy ora iddi hi;
Cân nes teimla hitha'r hirath
Sydd yn llosgi 'nghalon i.
Dywad wrth fy nghefnder hefyd
Y rhown i'r byd am hanner awr
O bysgota yn y Traffwll,
Draw o sŵn y gynna' mawr :
Dywed wrtho 'mod i'n cofio
Rhwyfo'r llyn a'r sêr uwchben ;
Megan efo mi, a fonta
Efo'r ferch o'r Allwadd Wen.
Wedi 'nabod Wil a Megan,
Dei di byth i ffwr', dwi'n siŵr ;
Pwy ddoi'n ôl i Facedonia
Wedi gwelad gardd Glan Dŵr ?
Cynan